AMDANOM NI

Partneriaeth o wasanaethau llyfrgell yw (BAVALINC Llyfrgelloedd yn y Gymuned Pen-y-bont ar Ogwr a'r Fro) sy'n gweithio o fewn Bro Morgannwg ac ardaloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Fe'i sefydlwyd ym mis Chwefror 2003, ac mae BAVALINC ar hyn o bryd yn cynnwys 30 man gwasanaethu unigol, gan gynnwys llyfrgelloedd cyhoeddus, addysg bellach, a llyfrgelloedd colegau annibynnol a cholegau ôl-raddedig

Mae BAVALINC yn anelu at:

  • Meithrin cydweithio rhwng llyfrgelloedd lleol er mwyn gwella'r gwasanaeth i ddefnyddwyr.
  • Darparu gwybodaeth hawdd ei chael ar yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael mewn llyfrgelloedd.
  • Cefnogi a hyrwyddo cyfleoedd dysgu drwy'r llyfrgelloedd.
  • Chwilio am gyfleoedd i ddatblygu casgliadau ar y cyd a rhannu adnoddau.
  • Darparu cyfleoedd i ddefnyddwyr llyfrgelloedd ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ymchwilio.
  • Datblygu dull o hyfforddi a datblygu staff ar y cyd.

Mae aelodaeth yn agored i bob llyfrgell a gwasanaeth gwybodaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg. Os ydych yn rhedeg llyfrgell neu wasanaeth gwybodaeth yn yr ardal, a hoffech drafod aelodaeth, cysylltwch â Rachel Carlson ar ffôn 01446 799051.

Dyma aelodau presennol BAVALINC: